{"id":754,"date":"2018-07-01T14:40:56","date_gmt":"2018-07-01T14:40:56","guid":{"rendered":"http:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/?p=754"},"modified":"2020-01-28T14:47:23","modified_gmt":"2020-01-28T14:47:23","slug":"datblygu-arweinyddiaeth-ysgolion-ar-draws-y-rhanbarthau-gorffennaf-2018","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/datblygu-arweinyddiaeth-ysgolion-ar-draws-y-rhanbarthau-gorffennaf-2018\/","title":{"rendered":"Datblygu arweinyddiaeth ysgolion ar draws y rhanbarthau \u2013 Gorffennaf 2018"},"content":{"rendered":"<p><strong>Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol<\/strong><br \/>\n<strong>Regional School Improvement Consortia<\/strong><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/EAS_Wales\/media\/Miscellaneous-Pictures\/Cross-Consortia-Banner.png\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p><strong>Datblygu arweinyddiaeth ysgolion ar draws y rhanbarthau \u2013 Gorffennaf 2018<\/strong><br \/>\n<strong><em>gan Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg)<\/em><\/strong><\/p>\n<p><em><strong>Cefndir<\/strong><\/em><br \/>\nErs y ddwy flynedd ddiwethaf, bu\u2019r pedwar rhanbarth yn cydweithio i ddatblygu arlwy dysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuwyd ar y gwaith trwy greu rhaglen i Ddarpar Benaethiaid, rhaglen newydd Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Cyflymwyd y cydweithio hwn yn sgil cyflwyno Bwrdd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ac mae\u2019r rhanbarthau wedi ymateb yn briodol gan gytuno i ehangu\u2019r gwaith cyffredin yn raddol.<br \/>\n<em>\u00a0<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cEin her, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad\u00a0\u00a0\u00a0 Economaidd (OECD), yw sicrhau dull cenedlaethol o weithredu i wella arweinyddiaeth, a gwneud yn si\u0175r bod hynny&#8217;n llywio&#8217;r diwygiadau ym maes addysg.\u00a0<\/em><em>Mae&#8217;r dystiolaeth yn dangos y gall yr arweinwyr yn ein hysgolion wneud gwahaniaeth mawr. Rwyf am inni gael yr arweinwyr iawn sy&#8217;n meddu ar y sgiliau iawn i wella safonau a phennu&#8217;r disgwyliadau uchaf ar gyfer pob un o&#8217;n pobl ifanc.\u201d<\/em><br \/>\n<strong>Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet Mai 2017<\/strong><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r rhanbarthau wedi ymroi i ddatblygu dysgu proffesiynol mewn partneriaeth gydag arweinwyr ac athrawon. Mae apwyntiad 12 o Gymdeithion yr Academi hefyd yn darparu cefnogaeth ychwanegol ac arbenigedd sydd i\u2019w croesawu i\u2019r system.<\/p>\n<p><em><strong>Ble\u2019r ydym ni arni?<\/strong><\/em><br \/>\nGydag arweinyddiaeth addysgol ar frig yr agenda ar gyfer datblygu addysg i raddau helaeth iawn, sefydlwyd t\u00eem prosiect traws-ranbarthol ac mae\u2019n gweithio i roi sylw i\u2019r amrywiadau rhanbarthol a ganfuwyd yn yr arlwy arweinyddiaeth sydd ar gael. Ffocws y t\u00eem prosiect yw:<\/p>\n<ul>\n<li>Datblygu darpariaeth unffurf, o ansawdd uchel, i Ddarpar Benaethiaid, Penaethiaid sy\u2019n newydd i\u2019r swydd a Phenaethiaid Dros Dro a Phenathiaid Profiadol (yn unol ag amserlen gymeradwyaeth gan yr Academi), i\u2019w chynnig ar draws y pedwar rhanbarth, er mwyn cynyddu nifer yr arweinwyr medrus ar draws Cymru.<\/li>\n<li>Datblygu\u2019r genhedlaeth nesaf o benaethiaid a sicrhau eu bod wedi\u2019u paratoi\u2019n dda ar gyfer r\u00f4l hanfodol prifathrawiaeth, ac yn cael cynnig rhaglen barhaus o ddatblygiad proffesiynol i\u2019w cefnogi i mewn i\u2019r swydd.<\/li>\n<li>Datblygu ymhellach sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth y cnewyllyn o arweinwyr llwyddiannus sydd yn y rhanbarth yn barod, i\u2019w galluogi i gynnig arweinyddiaeth system ehangach wrth i ni symud tuag at system a arweinir gan yr ysgol, a modelau strwythur newydd ar gyfer ysgolion megis ffederasiynau<\/li>\n<li>Darparu llwybr cydlynol o ddatblygiad ar hyd y llwybr dysgu proffesiynol, o Addysg Gychwynnol Athrawon i Brifathrawiaeth Weithredol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Hyd yn hyn mae\u2019r t\u00eem prosiect dros-ranbarthol wedi cynllunio Rhaglen i Benaethiaid Newydd eu Penodi a Phenaethiaid Dros Dro a Rhaglen Ddatblygu i Benaethiaid Profiadol. Datblygwyd cynnwys manwl ar gyfer y ddwy raglen, dilyswyd cynllun y rhaglen yn erbyn sail dystiolaeth, cr\u00ebwyd llawlyfrau hwyluso unffurf ac mae yna fethodoleg ar waith i ddal yr effaith. Elfen hanfodol yw bod y ddwy raglen wedi cael eu mapio yn erbyn Rhaglen Ardystio\u2019r Academi Arweinyddiaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bu\u2019r rhaglenni\u2019n ddarostyngedig i broses ymgynghori gyda grwpiau strategaeth penaethiaid a Chyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol, ar draws pob un o\u2019r pedwar rhanbarth, a bu penaethiaid o bob rhan o\u2019r rhanbarthau ynghlwm \u00e2\u2019r gwaith o ddrafftio cynnwys y rhaglenni.<\/p>\n<p>Yn ystod y broses o gynllunio a datblygu\u2019r rhaglenni, amlygwyd yr angen am gymorth sylweddol gan anogwyr dysgu i sicrhau y cyflwynir y rhaglenni\u2019n llwyddiannus. Arweiniodd y trafodaethau hyn at ddrafft cyntaf \u201cRhaglen Anogwyr Dysgu Addysg Cymru Uchel eu Perfformiad\u201d. Sail y rhaglen ddrafft hon yw datblygu a sefydlu diwylliant newydd o annog a mentora ym maes Addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p><strong><em>Achrediad<\/em><\/strong><br \/>\nBu achrediad yn elfen hanfodol wrth ddatblygu\u2019r rhaglen arweinyddiaeth, a chafwyd trafodaeth gynhwysfawr ar amrywiol opsiynau ac fe\u2019u gwerthuswyd, gan arwain at gyhoeddi \u201cgwahoddiad i dendro\u201d ar y cyd ym mis Mawrth 2018. Y rhesymeg wrth fynd ati ar y cyd i achredu, oedd sicrhau un darparwr a fydd yn fwy effeithiol na cheisio rheoli nifer o ddarparwyr, sicrhau darbodion maint ac, yn hanfodol, darparu cymhwyster cludadwy a safonedig. Yn dilyn y broses dendro ffurfiol, penodwyd Yr Athrofa a Phrifysgol Bangor ac mae\u2019r rhaglen achrededig gyntaf yn dechrau ym mis Medi 2018.<\/p>\n<p><strong><em>Y camau nesaf<\/em><\/strong><br \/>\nGyda\u2019r holl ffactorau hyn yn eu lle, cyflwynwyd y rhaglen i Benaethiaid Newydd eu Penodi a Phenaethiaid Dros Dro i\u2019r Academi Arweinyddiaeth yn ddiweddar, i\u2019w hardystio, ac roeddem wrth ein bodd i glywed yr wythnos ddiwethaf, fod yr hyn a gyflwynwyd gennym wedi llwyddo, a\u2019r rhaglen wedi ei hardystio\u2019n llwyr. Serch hynny, mae\u2019r t\u00eem eisoes yn gweithio i gwblhau\u2019r gwaith i\u2019w gyflwyno ar gyfer y rhaglen i Benaethiaid Profiadol ym mis Medi ac, ar yr un pryd, yn gyrru datblygiad achrediad ar draws continwwm datblygiad proffesiynol Arweinyddiaeth, o Gynorthwyydd Addysgu i Bennaeth Gweithredol. Bydd gwerthuso effaith ac ymchwil i arweinyddiaeth hefyd yn parhau i fod yn ffocws pwysig wrth i ni symud ymlaen, a\u2019r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i fwydo datblygiadau i\u2019r rhaglenni, ac i sicrhau bod ein rhaglenni\u2019n parhau i fod yn addas at y diben ac yn parhau i ddarparu hyfforddiant o\u2019r safon uchaf oll mewn Arweinyddiaeth i athrawon Cymru.<\/p>\n<p><em>Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch \u00e2: Helen Richards<\/em><br \/>\n<em>Rheolwr Prosiectau Gwaith Traws-ranbarthol (E-bost:\u00a0<\/em><em><a href=\"mailto:helen.richards@sewaleseas.org.uk\">helen.richards@sewaleseas.org.uk<\/a><\/em><br \/>\n<em>Rhif ff\u00f4n symudol: 07903 546 129)<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol Regional School Improvement Consortia Datblygu arweinyddiaeth ysgolion ar draws y rhanbarthau \u2013 Gorffennaf 2018 gan Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg) Cefndir Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, bu\u2019r pedwar rhanbarth yn cydweithio i ddatblygu arlwy dysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuwyd ar y gwaith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":747,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-754","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/754"}],"collection":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=754"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/754\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":756,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/754\/revisions\/756"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/747"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=754"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=754"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=754"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}