{"id":746,"date":"2018-05-01T14:17:10","date_gmt":"2018-05-01T14:17:10","guid":{"rendered":"http:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/?p=746"},"modified":"2020-01-28T14:20:24","modified_gmt":"2020-01-28T14:20:24","slug":"y-llwybr-at-gydweithredu-traws-ranbarthol-mai-2018","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/y-llwybr-at-gydweithredu-traws-ranbarthol-mai-2018\/","title":{"rendered":"Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol \u2013 Mai 2018"},"content":{"rendered":"<p><strong>Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol<\/strong><br \/>\n<strong>Regional School Improvement Consortia<\/strong><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Banner.png.aspx;\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p><strong>Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol \u2013 Mai 2018<\/strong><br \/>\n<strong><em>gan Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Betsan O&#8217;Connor (Rheolwr Gyfarwyddwr, ERW), Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS) a Mike Glavin (Rheolwr Gyfarwyddwr, CSC)<\/em><\/strong><\/p>\n<p><strong><em>Cefndir<\/em><\/strong><br \/>\nDaeth y pedwar consortiwm rhanbarthol at ei gilydd i ddechrau&#8217;r broses o gydweithredu traws-ranbarthol am y tro cyntaf ym mis Medi 2015. Roedd yn amlwg ar yr adeg hon y byddai cydweithio yn cynnig llawer o fanteision i bob un o&#8217;n rhanbarthau, ac yn fwyaf pwysig i&#8217;r holl ddysgwyr. Fodd bynnag, er ein bod yn cytuno bod cydweithredu traws-ranbarthol yn cynnig ffordd resymegol ymlaen, yn y cam hwn nid oedd yr isadeiledd ar gael i symud ymlaen mewn ffordd gyson a chydlynol.<br \/>\nDdwy flynedd yn ddiweddarach, ac roedd y rhagolygon traws-ranbarthol yn wahanol iawn. Roeddem wedi adeiladu ar yr amcan cyffredin o gydweithio, ac wedi bod yn dyst i nifer o gamau cadarnhaol ymlaen, yn ogystal \u00e2 llwyddiannau arwyddocaol, gan gynnwys cynnydd cyd-brosiect y Rhaglen Diogelu Asesiadau Athrawon (STAP), Categoreiddio Cenedlaethol, a&#8217;r broses o leihau&#8217;r Grant Gwella Addysg (EIG) i ffurfio un grant. Ochr yn ochr \u00e2&#8217;r cynnydd hwn, aethom ati i gymryd camau cadarnhaol ymlaen i oresgyn y rhwystrau ymarferol i gydweithredu traws-ranbarthol, er enghraifft recriwtio rheolwr prosiectau traws-ranbarthol, a sefydlu gweithgorau traws-ranbarthol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 ffrydiau gwaith penodol mewn meysydd allweddol.<\/p>\n<p><strong><em>Ble yr ydym ni &#8216;nawr?<\/em><\/strong><br \/>\nYn allweddol, mae yna eglurder o ran y diben, a hynny ar ffurf cyd-gynllun wedi&#8217;i ddiffinio&#8217;n dda. Mae&#8217;r argymhelliad a wnaed yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2016, sef y dylai &#8220;consortia rhanbarthol gydgysylltu a chydweithio ymysg ei gilydd, gan wella cysondeb o ran ansawdd y gwasanaethau&#8221;, wedi cael ei wireddu. Rydym yn deall hyd a lled y dasg, ac wedi cynllunio ar ei chyfer. Mae pob un ohonom ni, arweinwyr y consortia, yn noddi prosiectau penodol yn y cyd-gynllun, ac yn mynd ati&#8217;n rheolaidd i rannu gwybodaeth am gynnydd y prosiectau, yn ogystal \u00e2 gweithgarwch mewn meysydd eraill yn y consortia, a hynny gyda&#8217;r bwriad o ddileu dyblygu a sicrhau darpariaeth gyson, o ansawdd uchel ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae cydweithredu traws-ranbarthol yn uchelgeisiol, ond mae ein hamcanion yn glir. Byddwn yn sicrhau dull gweithredu cynlluniedig a chyson, a fydd yn sefydlu lefelau safonol o ran disgwyliadau a gwasanaethau. Dylai pob un o&#8217;n dysgwyr, ni waeth beth yw eu hangen a&#8217;u lleoliad unigol, gael profiad dysgu sydd o&#8217;r safon uchaf ac sy&#8217;n cael effaith amlwg ar eu cyfleoedd bywyd. Y cydweithredu traws-ranbarthol yw&#8217;r sail sy&#8217;n gyrru ac yn cefnogi&#8217;r uchelgais hon.<\/p>\n<p><em><strong>Ein prosiectau Rhanbarthol<\/strong><\/em><br \/>\nMae&#8217;r cyd-gynllun yn nodi naw prosiect:<br \/>\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Cross-Region-Projects-Cymraeg.png.aspx;?width=700&amp;height=550\" alt=\"\" \/><\/p>\n<table border=\"0\" cellspacing=\"0\" cellpadding=\"0\">\n<tbody>\n<tr>\n<td><strong>Prosiect<\/strong><\/td>\n<td><strong>Trosolwg o&#8217;r Prosiect<\/strong><\/td>\n<td><strong>Nodau&#8217;r Prosiect<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Reducing-Workload-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Mae tystiolaeth yn dangos bod baich gwaith gormodol yn effeithio ar y broses o recriwtio a chadw athrawon. Gan weithio ochr yn ochr ag Estyn, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio set glir o&#8217;r hyn y dylid ei wneud a&#8217;r hyn na ddylid ei wneud, er mwyn helpu i egluro&#8217;r disgwyliadau o ran llwyth gwaith ar gyfer yr holl athrawon ledled Cymru. Mae rhaglen hyfforddi genedlaethol wedi cael ei datblygu i gefnogi pob ysgol ar ei thaith i leihau&#8217;r llwyth gwaith, a hynny trwy uwch-sgilio athrawon er mwyn gofalu eu bod yn rhoi adborth yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posibl, gan sicrhau&#8217;r effaith orau ar gyfer y disgyblion ar yr un pryd. Trwy ymchwil, ymweliadau ag ysgolion, astudiaethau achos, gweithio mewn partneriaeth a gwrando ar ddysgwyr, mae enghreifftiau sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth wedi cael eu coladu i ddangos y ffordd y gall ysgolion ddatblygu eu mecanweithiau adborth i sicrhau&#8217;r effaith fwyaf ar y dysgwyr.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Meithrin athrawon mewn ysgolion, sy&#8217;n gallu defnyddio adborth mewn modd effeithiol, fel ei fod yn cael yr effaith leiaf ar lwyth gwaith athrawon ond yn sicrhau&#8217;r effaith fwyaf ar gynnydd y disgyblion.<\/li>\n<li>Sicrhau cydlyniad \u00e2&#8217;r Cwricwlwm i Gymru, ac atgyfnerthu&#8217;r ffaith bod addysgu a dysgu da yn golygu defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu, ac yn annog plant a phobl ifanc i ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Leadership-Development-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=93\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Er mis Gorffennaf 2016, mae&#8217;r pedwar rhanbarth wedi bod yn cydweithredu mwy ar ddatblygu cynigion dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuodd y gwaith hwn wrth i gynnig diwygiedig gael ei lunio ar gyfer darpar benaethiaid, a hynny ar gais Llywodraeth Cymru. Lluniwyd rhaglen newydd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), ac fe&#8217;i diwygiwyd ers hynny. Mae cyflwyno&#8217;r Bwrdd Cysgodol ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) wedi cyflymu&#8217;r cydweithio hwn, ac mae&#8217;r rhanbarthau wedi ymateb yn unol \u00e2 hynny, gan gytuno i ymestyn yr elfennau cyffredin fesul cam.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Datblygu a sicrhau darpariaeth gyffredin ar gyfer darpar benaethiaid, penaethiaid sy&#8217;n newydd i&#8217;r swydd, a phenaethiaid profiadol ledled y pedwar rhanbarth, a hynny fesul cam.<\/li>\n<li>Caffael neu ddatblygu offer a dogfennau i gefnogi&#8217;r nod.<\/li>\n<li>Ymgysylltu ag asiantaethau y mae eu gwaith yn effeithio ar ddiben y prosiect, a mewnbynnu gwybodaeth newydd sy&#8217;n deillio o ddatblygiadau&#8217;r asiantaethau hyn, e.e. Meini Prawf Ardystiad NAEL.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Discover-Teaching-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Ar hyn o bryd, mae Cymru&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd recriwtio athrawon i&#8217;r rolau addysgu a rolau&#8217;r penaethiaid sydd ar gael. Mae hyn, yn amlwg, yn cael effaith negyddol ar brofiad dysgwyr, ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol o ran costau, sy&#8217;n arwain at rwystr sylweddol i&#8217;r gwaith o gynnal a gwella safonau addysgu yng Nghymru.<br \/>\nYn y pen draw, er mwyn i&#8217;r consortia gyflawni eu hamcanion o wella ysgolion, mae&#8217;n hanfodol yr eir i&#8217;r afael \u00e2 materion recriwtio a chadw, er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer pob menter arall. Byddai methu gwneud hynny nid yn unig yn peryglu llwyddiant prosiectau eraill, ond hefyd yn effeithio&#8217;n negyddol ar bob cam tuag at wella ysgolion yn barhaus.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Codi proffil Cymru fel lleoliad rhagorol i athrawon fyw a gweithio, ac, wrth wneud hynny, gynyddu&#8217;n sylweddol nifer ac ansawdd yr athrawon a&#8217;r penaethiaid sy&#8217;n gwneud cais am swyddi yng Nghymru.<\/li>\n<li>Cefnogi&#8217;r gwaith o gadw athrawon trwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i sicrhau dilyniant a symud ymlaen \u00e2&#8217;u gyrfa yng Nghymru.<\/li>\n<li>Dylid cyflawni&#8217;r nod o dan faner &#8220;Darganfod Addysgu\u201d, sy&#8217;n ymgyrch aml-blatfform.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Improving-Standards-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Gwella safonau mewn ysgolion yw cyfrifoldeb craidd y consortia fel y cyrff sy&#8217;n gwella ysgolion yng Nghymru.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Nodi, rhannu a gweithredu arferion gwella ysgolion rhagorol ledled y consortia.<\/li>\n<li>Nodi anghenion datblygu cyffredin, a mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw, gan ddefnyddio hunanarfarnu fel man cychwyn.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Communications-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Sefydlwyd hyn i godi proffil y prosiectau traws-ranbarthol a gwaith trosfwaol y consortia, er mwyn meithrin dealltwriaeth a sicrhau neges gyson, a dileu dyblygu o ran ymdrech. At hynny, mae&#8217;r t\u00eem yn gyfrifol am fynd i&#8217;r afael \u00e2 materion cyfathrebu sy&#8217;n ymwneud ag effeithlonrwydd gweithredol pob prosiect traws-ranbarthol, a chyflawni anghenion cyfathrebu&#8217;r prosiectau hynny.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Sefydlu t\u00eem cyfathrebu traws-ranbarthol.<\/li>\n<li>Sefydlu, datblygu a gweithredu dulliau cyfathrebu traws-ranbarthol effeithiol.<\/li>\n<li>Codi proffil prosiectau traws-ranbarthol a gwaith y Consortia.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Post-16-Learning-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Mae t\u00eem y prosiect Dysgu \u00d4l-16 yn gyfrifol am gyflawni&#8217;r camau gweithredu a ddynodwyd i&#8217;r consortia, ac a nodir yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o&#8217;r cymhwyster Safon Uwch. At hynny, mae&#8217;r t\u00eem yn datblygu Rhaglen Arweinyddiaeth \u00d4l-16 pwrpasol.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Sefydlu gr\u0175p traws-ranbarthol o gynrychiolwyr \u00f4l-16 wedi&#8217;u henwebu o bob consortiwm.<\/li>\n<li>Cydweithio i nodi amcanion Adolygiad Llywodraeth Cymru o&#8217;r cymhwyster Safon Uwch, ynghyd \u00e2&#8217;r hyn y gellir ei gyflawni, a&#8217;u rhoi ar waith, a sicrhau darpariaeth gyson ledled y pedwar rhanbarth.<\/li>\n<li>Datblygu rhaglen Arweinyddiaeth \u00d4l-16.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Curriculum-for-Wales-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Cefnogi&#8217;r gwaith o ddatblygu a gwireddu agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a hynny mewn modd rhagweithiol a chyson.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Adeiladu ffordd well o ddysgu, cyflawni rhagoriaeth gyda&#8217;n gilydd, ac ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus.<\/li>\n<li>Gan fod ein pobl ifanc yn byw mewn byd sy&#8217;n newid o hyd, adeiladu system a fydd yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar yr wybodaeth a&#8217;r sgiliau angenrheidiol ar gyfer &#8216;nawr a&#8217;r dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Welsh-Think-Tank-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Cenhadaeth sylfaenol timau&#8217;r prosiectau yw archwilio, cydlynu a lledaenu ymchwil ar y cyd, a darparu cefnogaeth ragweithiol, ganolog i raglen dysgu proffesiynol y consortia, ac i ddimensiynau model Llywodraeth Cymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy&#8217;n Dysgu.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Mynegi strategaeth ymchwil, polisi a chynllun clir.<\/li>\n<li>Cydgysylltu a lledaenu gwaith ymchwil y consortia, a sicrhau bod unrhyw ddyblygu yn cael ei ddileu.<\/li>\n<li>Ar y cyd, comisiynu a rheoli gwaith ymchwil o ansawdd uchel, lle y sefydlwyd bod yna angen clir.<\/li>\n<li>Sicrhau&#8217;r budd mwyaf i&#8217;r athrawon a&#8217;r consortia.<\/li>\n<li>Sicrhau gwerth am arian.<\/li>\n<li>Cefnogi a chynnal dimensiynau model Llywodraeth Cymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy&#8217;n Dysgu.<\/li>\n<li>Ymgysylltu \u00e2 phartneriaethau a&#8217;u datblygu, er mwyn sicrhau rhagoriaeth, didwylledd a chymhwysedd y gwaith ymchwil.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sewales.org.uk\/getattachment\/News\/The-Road-to-Cross-Regional-Working-%E2%80%93-May-2018\/Professional-Learning-Cymraeg.jpg.aspx;?width=100&amp;height=100\" alt=\"\" \/><\/td>\n<td>Sefydlu rhaglen draws-ranbarthol o ddysgu proffesiynol.<\/td>\n<td>\n<ul>\n<li>Datblygu a chyflawni darpariaeth gyffredin ar gyfer athrawon a chynorthwywyr ledled y pedwar rhanbarth, a hynny fesul cam.<\/li>\n<li>Sefydlu diffiniad o ddysgu proffesiynol, yn ogystal \u00e2 fframwaith a chynnig ar ei gyfer.<\/li>\n<li>Sefydlu sail dystiolaeth yn seiliedig ar ymarfer.<\/li>\n<li>Ymgysylltiad parhaus \u00e2 phartneriaid eraill ar draws y tair haen.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>Mae yna d\u00eem prosiect \u00e2 ffocws yn gysylltiedig \u00e2 phob prosiect, sy&#8217;n gyfrifol am sefydlu, llunio a chyflawni&#8217;r prosiect hwnnw.<\/p>\n<p>Bydd blogiau pellach yn darparu diweddariadau ar brosiectau penodol; bydd y nesaf yn canolbwyntio ar Ddatblygu Arweinwyr.<\/p>\n<p><em>I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau, cysylltwch \u00e2: Helen Richards<\/em><em>,\u00a0<\/em><em>Rheolwr Prosiectau Gwaith Traws-ranbarthol (E-bost:\u00a0<\/em><a href=\"mailto:helen.richards@sewaleseas.org.uk\"><em>helen.richards@sewaleseas.org.uk<\/em><\/a><br \/>\n<em>Ff\u00f4n symudol: 07903 546 129)<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol Regional School Improvement Consortia Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol \u2013 Mai 2018 gan Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Betsan O&#8217;Connor (Rheolwr Gyfarwyddwr, ERW), Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS) a Mike Glavin (Rheolwr Gyfarwyddwr, CSC) Cefndir Daeth y pedwar consortiwm rhanbarthol at ei gilydd i ddechrau&#8217;r broses o gydweithredu traws-ranbarthol am y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":747,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-746","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746"}],"collection":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=746"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":753,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746\/revisions\/753"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/747"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=746"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=746"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/eas.spindogs-dev7.co.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=746"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}