Dyddiad cau: 28th April 2023
Gan weithio’n agos gyda’r Prif Bartneriaid Gwella Ysgolion fel rhan o’r tîm Gwella Ysgolion, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn darparu cymorth gwella ysgolion rhagweithiol a ffocws yn y rhanbarth. Mae’r rôl yn rhoi’r cyfle i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, i sicrhau cymorth priodol ac amserol i ysgolion sy’n gysylltiedig â’u hunan-werthuso a’u blaenoriaethau unigol ar gyfer gwella.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth ardderchog am wella ysgolion ac sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau a phrofiadau newydd, gan gynnwys gweithio gydag ystod o bartneriaid strategol. Gweledigaeth y GCA yw i gefnogi a galluogi ysgolion a lleoliadau addysg i ffynnu fel sefydliadau dysgu effeithiol, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd a’r gymuned addysgol ehangach.
Hysbysiad Preifatrwydd – Data Ymgeisydd
Os hoffech chi drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Jonathan Keohane, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Gwella Ysgolion) ar 07904 644902.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon, llenwch ac e-bostiwch ffurflen gais at HR@sewaleseas.org.uk.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff pob cais ei drin yn gyfartal.
Dyddiad cau: Hanner dydd, Dydd Gwener 28 Ebril
Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles pobl ifanc. . Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn fodlon cael eu sgrinio mewn perthynas ag amddiffyn plant ar lefel sy’n briodol ar gyfer y swydd, yn cynnwys gwiriadau a wneir trwy gysylltu â chyngyflogwyr a gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad Cychwyn: 20231002
Hyd: Ar gael am gyfnod penodol hyd at 31 Awst 2024 (rhan amser .5)
Cyflog: Soulbury 17-20 (23), £58,112 i £61,337 (£64,985 yn cynnwys SPAs) ar gyfartaledd