Deprecated: sprintf(): Passing null to parameter #1 ($format) of type string is deprecated in /var/www/vhosts/eas.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/v1/platform/spindogs/wp-platform/classes/Translation.php on line 123
» Y Cwricwlwm ac Asesu

Y Cwricwlwm ac Asesu

Mae ein hymgynghorwyr yn gweithio gydag ymarferwyr ac ysgolion ar draws yr ystod o feysydd y cwricwlwm.

Fel timau cefnogi pwnc, rydym yn ceisio rhagoriaeth yn barhaus drwy sgyrsiau herio a chefnogi gyda’n hysgolion a’n hathrawon. Rydym yn myfyrio ar ein darpariaeth ac yn ei gwerthuso’n gyson.

Mae ein gwaith yn cael ei wneud gydag ymarferwyr mewn ysgolion i gyflwyno ein cefnogaeth i ysgolion ar draws amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm. Rydym yn credu mewn gwella safonau a phrofiadau dysgu drwy gydweithio a hwyluso cefnogaeth unigryw i ysgolion gydag Ysgolion y Rhwydwaith Dysgu. Arweinir dysgu proffesiynol gan dimau mewn partneriaeth ag ysgolion ar draws y rhanbarth i ddatblygu ffocws ar addysgeg, arloesedd ac arweinyddiaeth yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o’n cefnogaeth, rydym yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaith tymhorol i Arweinwyr y Cwricwlwm i roi’r newyddion diweddaraf iddynt o ran diwygio’r Cwricwlwm i Gymru.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu