Mae’r Cynllun Busnes yn ffocysu ar yr angen i godi dyheadau a gwella deilliannau disgyblion, gwella ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth, cefnogi ysgolion i wireddu’r agenda ddiwygio genedlaethol a pharhau i adeiladu ar y system hunan-wella mewn ysgolion a lleoliadau ac ar eu traws.
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y Cynllun Busnes wedi dod o Gynlluniau Strategol yr ALl, y cynnydd sydd eisoes wedi cael ei wneud tuag at y Cynllun Busnes blaenorol (fel a nodwyd yn y ddogfen hunanwerthuso ranbarthol), a meysydd sydd wedi cael eu nodi bod angen eu gwella drwy brosesau hunanwerthuso, ymchwil allanol ac adborth gan Estyn.