Deprecated: sprintf(): Passing null to parameter #1 ($format) of type string is deprecated in /var/www/vhosts/eas.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/v1/platform/spindogs/wp-platform/classes/Translation.php on line 123
» Cyd-destun Rhanbarthol

Cyd-destun Rhanbarthol

Cwmni cyfyngedig nid er elw yw’r GCA y mae’r pum awdurdod lleol (ALl) yn Ne-ddwyrain Cymru’n berchen arnynt.

  • Nifer y disgyblion oedran ysgol gorfodol yn 2019 oedd 72,698. Mae hyn yn cynrychioli 19% o’r holl ddisgyblion yng Nghymru.
  • Mae 234 o ysgolion a gynhelir yn y rhanbarth, sef 16% o’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru (ffigur y GCA yn gywir ym mis Medi 2019, ffigur Cymru o PLASC, 2019).
  • Canran y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) yw 19.2%, sy’n uwch na’r ffigur cenedlaethol o 18.3%. Y lefel hon o gymhwysedd yw’r ail uchaf ar y cyd o’r pedwar consortia rhanbarthol gyda Chonsortiwm Canolbarth y De (PLASC, 2019).
  • Yn yn rhanbarth, roedd 10% o bobl tair oed ac yn hŷn yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â chyfartaledd Cymru o 19% (Cyfrifiad 2011, SYG).
  • Canran y disgyblion 5 oed neu’n hŷn o gefndir lleiafrifoedd ethnig yw 10.8%, cynnydd o 10.3% yn 2018. Dyma gynnydd tebyg mewn cyfradd i’r gyfradd genedlaethol (11.4% o 11.0%).