Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys pum Uwch-aelod Cabinet sy’n cynrychioli’r pum Awdurdod Lleol (nad ydynt yn ddeiliaid y portffolio dros Addysg), Prif Weithredwr Arweiniol, Cyfarwyddwr Arweiniol, Rheolwr-gyfarwyddwr y GCA, hyd at 4 aelod anweithredol a fydd yn cael eu penodi, gyda chymeradwyaeth y Bwrdd, am eu harbenigedd mewn addysg, arweinyddiaeth a llywodraethu corfforaethol, ac arsylwr o Lywodraeth Cymru.
Bydd gan aelodau’r bwrdd gyfrifoldeb dros gymeradwyo’r gyllideb (gan gynnwys taliadau), cynllunio busnes a rheoli perfformiad y consortiwm rhanbarthol.
Bydd y Bwrdd hefyd yn darparu lefel briodol o her i’r GCA. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio strategol, monitro a gwerthuso ac arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth.
Y Cynghorydd Garth Collier
Is-arweinydd /Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd
Y Cynghorydd Lisa Phipps
Aelod Cabinet ar gyfer Cartrefi a Lleoedd
Y Cynghorydd Phil Murphy
Aelod Cabinet dros Adnoddau
Y Cynghorydd Roger Jeavons
Aelod Cabinet ar gyfer Strydlun
Y Cynghorydd Kelly Preston
Aelod Gweithredol Adnoddau
Roger Guy
Daniel Berry
Dr Rachel Hughes